Хелпикс

Главная

Контакты

Случайная статья





HANES DREIGIAU CADW («ИСТОРИЯ СПАСЕНИЯ ДРАКОНОВ») Pennod un (Глава первая)BRENIN YN TROI’N DDRAIG («ОТ КОРОЛЯ ДО ДРАКОНА»)



HANES DREIGIAU CADW («ИСТОРИЯ СПАСЕНИЯ ДРАКОНОВ») Pennod un (Глава первая)BRENIN YN TROI’N DDRAIG («ОТ КОРОЛЯ ДО ДРАКОНА»)

Gadewch i ni ddechrau yn y dechrau. - Давайте начнём с самого начала.

Filoedd o flynyddoedd yn ôl, mewn cyfnod llawn dreigiau, gwrachod a chewri, cerddai Brenin Cymru yn ogofâu dwfn a thywyll Dinas Emrys. - Много тысяч лет назад, во времена драконов, ведьм и великанов, великий король Уэльса прогуливался в глубоких, тёмных пещерах Динас-Эмрис.

Roedd y Brenin ar goll. - Король заблудился.
Roedd wedi bod yn cerdded ers dyddiau yn nhywyllwch dudew yr ogofâu. - Он уже несколько дней бродил по глубоким тёмным комнатам пещеры.
Ar ôl cerdded am filltiroedd yn llwglyd ac yn llawn anobaith, dychmygwch ei ryddhad pan welodd wy mawr yn disgleirio yn y tywyllwch. - Он был окружён мраком и шёл вот уже много миль, и его чувство голода всё возрастало, — так вообразите же себе его облегчение, когда он наткнулся на большое яйцо, мерцающее в темноте.

Yn y dyddiau hynny, y gred oedd y byddai unrhyw greadur a fyddai'n bwyta wy draig mewn camgymeriad yn troi’n ddraig. - Так вот, в те времена считалось, что любое существо, которое по ошибке съест драконье яйцо, немедленно превратится в дракона.
Roedd y Brenin yn gwybod hyn. - Король об этом знал.
Ond roedd hefyd yn gwybod pa mor brin oedd wyau draig. - Но он знал также, насколько редки драконьи яйца.
Ac erbyn hynny, ar ôl siwrnai mor faith, doedd dim ots ganddo gan ei fod bron â marw eisiau bwyd. - И к тому моменту своего долгого путешествия он был слишком голоден, чтобы обращать на это внимание.

Craciodd y Brenin yr wy a llywcio’r cyfan. - Король разбил яйцо и проглотил его целиком.
Yna, BANG! Diflannodd y Brenin, ac yn ei le safai draig anferthol. - А затем - бум! - в клубах дыма король исчез, а на его месте появился огромный дракон.

Mae pawb yn gwybod bod dreigiau'n hoffi llefydd tywyll, tamp, felly roedd yn fodlon iawn ei fyd yn yr ogof. - Как всем известно в наши дни, драконы любят тёмные, сырые места — так что пещера показалась ему очень приятной.
Ond wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, diflasodd ar yr ogof. - Но через много лет ему наскучило смотреть на одни и те же сталактиты, сталагмиты и гулкие камеры.
Roedd yn ysu am gael cwmni. - Он жаждал хоть какого-то общества.

Felly mentrodd y Ddraig allan o’r ogof ac esgyn yn uchel uwchben Dinas Emrys, cyn hedfan i gyfeiriad y de i chwilio am gartref newydd. - Итак, дракон вынырнул из пещерных подземелий, поднялся высоко над Динас-Эмрисом и полетел на юг, в поисках нового логова.


Bu'n hedfan am oriau lawer cyn sylwi ar furiau urddasol yn bell bell oddi tano. - Дракон летал вокруг в течение нескольких часов, прежде чем заметил несколько великолепных каменных стен далеко внизу.
Plymiodd i lawr i gael gweld yn well, a glanio ar fryncyn castell trawiadol iawn. - Он взмыл вниз, чтобы исследовать местность, и приземлился на берегу эпического замка.
Castell Caerffili. - Замок Кэрфилли.

Yn ôl pob sôn, mae dreigiau, wrth reddf, yn cael eu denu at gestyll. - Считается, что любовь к замкам заложена в самой природе драконов.
Maen nhw wrth eu bodd â dwnsiwn i gael cuddio ynddo, ac yn hoffi cael tyrrau uchel i’w dringo. - Им нравится иметь башни, чтобы взбираться на них, и подземелья, чтобы прятаться в них.
Doedd y Ddraig yma ddim gwahanol. - И этот дракон не был исключением из правил.

Treuliodd oriau’n crwydro o amgylch y castell, wedi'i chyfareddu’n llwyr, cyn gorwedd a gorffwys ar yr arglawdd, wedi blino'n lân. - Он был очарован этим местом и провёл несколько часов, исследуя территорию замка, прежде чем свернуться калачиком на берегу для столь необходимого ему отдыха.

Y bore wedyn, deffrodd i weld môr o wynebau syn. - На следующее утро он проснулся, окружённый толпой изумлённых людей.
Yn digwydd bod, roedd wedi glanio yng Nghastell Caerffili yn barod am Ddydd Gŵyl Dewi – dathliad cenedlaethol yng Nghymru. - По счастливой случайности он приземлился в замке Кэрфилли как раз ко дню святого Давида — Дню национального праздника Уэльса.

Roedd yn teimlo’n ofnus ar y dechrau, ond doedd dim angen — mae pobl Cymru wedi bod yn hoff o ddreigiau erioed. - Поначалу он немного испугался, но это было и не нужно — валлийцы всегда любили драконов.
A doedd neb wedi gweld draig go iawn yng Nghymru ers canrifoedd, felly roedd pawb wedi cyffroi’n lân. - А настоящего дракона в Уэльсе не видели уже много веков, так что люди были очень взволнованы.

Wrth i'r diwrnod fynd yn ei flaen, aeth y dorf yn fwy ac yn fwy. - День шел за днём, а толпа всё росла и росла.
Roedd y bobl mor falch o weld y Ddraig, dyma nhw’n penderfynu ei henwi’n Dewi — ar ôl eu nawddsant — a gofynnwyd i Dewi ddod i fyw yng Nghastell Caerffili. - Люди были так счастливы увидеть дракона, что решили назвать его Дэви — в честь своего святого покровителя — и пригласили его навсегда поселиться в замке Кэрфилли.

Roedd Dewi yn fwy na pharod i dderbyn y cynnig, ac wedi gwirioni ar ei enw a’i gartref newydd. - Дэви подчинился, заинтригованный своей новой личностью и совершенно новым логовом.
Felly bu'n crwydro tir y castell ac yn gwarchod y muriau am wanwyn cyfan... - И вот он бродил по территории замка и увлечённо охранял его стены в течение всего весеннего сезона…



  

© helpiks.su При использовании или копировании материалов прямая ссылка на сайт обязательна.